BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun newydd i helpu i ddiogelu Cymru rhag ymosodiadau seiber a thyfu'r sector seiber

Mae helpu i ddiogelu Cymru rhag ymosodiadau seiber, creu swyddi newydd sydd â llif o dalent yn y dyfodol ar gyfer ecosystem seiber sy'n tyfu'n gyflym yn y DU wrth wraidd Cynllun Gweithredu Seiber newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw (3 Mai 2023) gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething:

  • Pedair blaenoriaeth mewn Cynllun Gweithredu Seiber newydd i Gymru: Tyfu'r sector seiber, adeiladu llif o dalent, hybu seibergadernid, a diogelu gwasanaethau cyhoeddus.
  • Mae'r cynllun yn tynnu ynghyd y llywodraeth, y diwydiant, y byd academaidd a gorfodi'r gyfraith. 
  • Mae'r cynllun yn bwrw ymlaen â'r Strategaeth Ddigidol i Gymru sydd wedi'i chynllunio i greu gwasanaethau sy'n fwy ystyriol o ddefnyddwyr mewn economi ddigidol gryfach. 

Mae'r cynllun newydd yn nodi sut y gall sector seiber flaenllaw Cymru gefnogi twf economi Cymru, gan sicrhau y gall Cymru ffynnu drwy seibergadernid, talent, ac arloesedd. 

Mae pandemig Covid-19 wedi cyflymu amlygrwydd a phwysigrwydd y byd digidol ym mywydau pobl Cymru. Mae'r ddibyniaeth hon wedi arwain at gynnydd o ran y risg o ymosodiadau seiber mwy cyffredin a soffistigedig.

Mae Strategaeth Ddigidol i Gymru Llywodraeth Cymru yn pennu gweledigaeth i wella bywydau pawb drwy gydweithio, arloesi, a gwasanaethau cyhoeddus gwell.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynllun newydd i helpu i ddiogelu Cymru rhag ymosodiadau seiber a thyfu'r sector seiber | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.