BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Peilot Cronfa Uwchsgilio AI Hyblyg

AI

Mae’r Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT) wedi cyhoeddi cynllun peilot £7.4 miliwn, sef y Gronfa Uwchsgilio AI Hyblyg, i gymorthdalu cost hyfforddi sgiliau deallusrwydd artiffisial (AI) ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaChau) yn y sector Gwasanaethau Busnes Proffesiynol.

Mae £6.4 miliwn o gyllid grant ar gael yn 2024-2025. Dyrennir cyllid trwy ymarfer ymgeisio cystadleuol a gynhelir ym mis Mai 2024.

Trwy’r rhaglen beilot hon, gall busnesau cymwys wneud cais am gyllid ar gyfer hyd at 50% o gost hyfforddi sgiliau AI. Mae hyn yn cyfeirio at hyfforddiant sy’n cynorthwyo cyflogeion i ddatblygu eu sgiliau technegol a/neu eu dealltwriaeth o AI i allu datblygu, cyflwyno, neu ddefnyddio AI yn eu rôl.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb yw 23 Ebrill 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Flexible AI Upskilling Fund pilot: Expression of Interest - GOV-UK Find a grant (find-government-grants.service.gov.uk)

Paratowch i ddysgu am y cynllun peilot Cronfa Uwchsgilio AI Hyblyg mewn sesiwn holi ac ateb Gwybodaeth Cyn-Lansio rad ac am ddim ar 16 Ebrill 2024. Archebwch eich lle yma: Flexible AI Upskilling Fund pilot - Pre-Launch Information Q&A Tickets, Tue, Apr 16, 2024 at 10:00 AM | Eventbrite

Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais am gyllid pan fydd y cyfnod ymgeisio’n agor ar 1 Mai 2024. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.