BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun profiad gwaith newydd i gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn

Heddiw (21 June 2023), cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg y bydd pobl ifanc sydd mewn perygl o adael addysg yn cael profiad gwaith ystyrlon fel rhan o ymdrechion i sicrhau eu bod yn ailgysylltu â'u haddysg.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus, bydd y cynllun hanner miliwn o bunnoedd yn cefnogi hyd at 500 o ddysgwyr 14-16 oed ym mlynyddoedd 10 ac 11 yn 2023/24. Byddant yn elwa ar leoliadau profiad gwaith o ansawdd uchel, mewn sector sy'n apelio atynt, fel rhan o waith ehangach Llywodraeth Cymru i leihau ac atal diweithdra ymhlith pobl ifanc.

Bydd cynghorwyr Gyrfa Cymru yn cydweithio ag ysgolion a chyflogwyr ledled Cymru i roi lleoliad profiad gwaith i hyd at 500 o ddysgwyr ym mlwyddyn 10 a blwyddyn 11.

Disgwylir i ddysgwyr ymgymryd ag astudiaethau TGAU craidd yn eu hysgol neu ailymgymryd â nhw, gan fynd i’w lleoliad profiad gwaith un i ddau ddiwrnod yr wythnos.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cynllun profiad gwaith newydd i gefnogi pobl ifanc i gyrraedd eu potensial llawn | LLYW.CYMRU

Cyflogwyr

Mae Gyrfa Cymru yn darparu amrywiaeth o wasanaethau am ddim i gyflogwyr yng Nghymru a gall ddarparu cefnogaeth ar gyfer recriwtio, diswyddiadau a cholli gwaith a gallwn eich helpu i weithio gydag ysgolion yn eich ardal. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Cyflogwyr | Careers Wales (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.