BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun treialu system TG REACH – angen gwirfoddolwyr

Mae Defra yn treialu Rheoliad busnes ar gyfer system TG cofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu ar gemegau er mwyn rheoleiddio cadwyni cyflenwi cemegau ar ôl Brexit.

Mae’n chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer cyfleoedd profi parhaus hyd at ddiwedd 2020; cynhelir y cyfleoedd hyn o bell a byddant yn helpu i wella swyddogaethau ar gyfer lansio’r gwasanaeth a gwaith datblygu ar ôl Diwrnod Un.

Mae Defra yn awyddus iawn i glywed gan unigolion nad oes ganddynt unrhyw brofiad blaenorol o wasanaeth Cydymffurfio â REACH y DU, naill ai yn eu hymarferion Model Office blaenorol neu mewn profion defnyddwyr un i un. Byddant yn bodloni’r gofynion canlynol:

  • Defnyddwyr sy’n defnyddio cemegau
  • Mewnforwyr
  • Dosbarthwyr
  • Defnyddwyr cofrestr gyhoeddus ECHA
  • Gwasanaethau ymgynghori sy’n cynnig gwasanaethau amrywiol, gan gynnwys cynrychioli trydydd partïon  
  • Sefydliadau ymchwil a datblygu
  • Rheolwyr consortia
  • Gweinyddwyr/rheolwyr cyfrifon REACH  

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch REACH-IT@defra.gov.uk


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.