BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun trwyddedu newydd arfaethedig i sicrhau tegwch a gwella safon llety ymwelwyr yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer holl ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.

Y prif nod yw sicrhau chwarae teg i bob busnes llety ymwelwyr sy'n gweithredu yn y sector. Mae'r pryder ynghylch diffyg tegwch wedi bod yn faes trafod ers amser gyda phryderon nad yw rhai rhannau o'r sector yn cyrraedd nac yn cydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Mae Cytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru yn ymrwymo i gynllun trwyddedu statudol ar gyfer tai gwyliau fel rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â'r effaith negyddol y gall ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr ei chael ar argaeledd a fforddiadwyedd tai i bobl leol yn ein cymunedau.

Gallai cynllun trwyddedu statudol:

  • darparu'r mecanwaith i fynd i'r afael â phryderon ynghylch cydymffurfio;
  • ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddangos tystiolaeth bod ganddynt ofynion penodol, megis yr yswiriant cywir, cadarnhau statws cynllunio, tystiolaeth o asesu risg tân, tystysgrif diogelwch nwy, a phrawf o ddiogelwch trydanol;
  • darparu cronfa ddata gynhwysfawr o bwy yn union sy'n gweithredu yn y diwydiant gan nad yw'n bosibl ar hyn o bryd pennu faint o fusnesau llety ymwelwyr sydd yng Nghymru, neu mewn unrhyw gymuned benodol;
  • bod yn offeryn gwerthfawr wrth ddeall graddfa a natur y sector.

Ymateb i’r ymgynghoriad: Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.

Mae’r ymatebion i gyrraedd erbyn 17 Mawrth 2023.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.