BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynlluniau benthyg coronafeirws a Chronfa’r Dyfodol yn cael eu hymestyn hyd 31 Ionawr 2021

Diben y benthyciadau yw cefnogi busnesau yn y DU sy’n colli refeniw, y mae’r argyfwng COVID-19 wedi tarfu ar eu llif arian.

Mae’r cynlluniau a restrir isod wedi’u hymestyn hyd 31 Ionawr 2021:

  • Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS)
  • Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws (CLBILS)
  • Y Cynllun Benthyciad Adfer (BBLSS) – a Chronfa’r Dyfodol

Bydd busnesau cymwys yn gallu ychwanegu at eu Benthyciadau Adfer presennol os ydynt angen rhagor o arian, am ragor o wybodaeth ewch i wefan Banc Busnes Prydain.

Bydd rhagor o wybodaeth am y newidiadau i’r pedwar cynllun ar gael ar wefan  Banc Busnes Prydain maes o law.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.