BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth ariannu – Rownd 5 Faraday Battery Challenge

Gall busnesau cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar draws dau faes, ar gyfer arloesi mewn technolegau batris gyrru ar gyfer cerbydau trydan.

Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn mewn prosiectau arloesi ar draws dau faes y gystadleuaeth hon. Daw'r arian hwn o Faraday Battery Challenge (FBC).

Nod y gystadleuaeth hon yw:

  • cefnogi ymchwil a datblygu dan arweiniad busnesau i fatris gyrru cynaliadwy
  • cefnogi technolegau sydd â'r potensial i ymuno â'r farchnad fodurol o fewn y 10 mlynedd nesaf a, lle y bo'n briodol, caniatáu mynediad cynnar neu synergaidd i sectorau eraill
  • symud datblygiadau arloesol batris y DU o botensial technolegol tuag at allu masnachol
  • datblygu a sicrhau cadwyni cyflenwi deunyddiau a gweithgynhyrchu ar gyfer technolegau batris yn y DU

Mae'r gystadleuaeth hon wedi'i rhannu'n 2 faes – cliciwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth:

Bydd y gystadleuaeth yn cau ddydd Mercher, 17 Awst 2022 am 11am.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.