BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth ariannu StoryLab i gwmnïau creadigol

Mae StoryLab yn ddigwyddiad arloesi agored sy'n ariannu cynyrchiadau prototeip mewn perthynas ag adrodd straeon ymgolli a'r genhedlaeth nesaf, gan gysylltu BBaChau ag ymchwilwyr prifysgol a sefydliadau ar raddfa fawr.

Mae StoryFutures a'r Roald Dahl Marvellous Children’s Charity wedi dod at ei gilydd i gynnig cyfle i gwmnïau creadigol yn rhanbarth StoryFutures gydweithio ar brototeip Ymchwil a Datblygu Realiti Estynedig neu Gymysg i archwilio sut y gall adrodd straeon ymgolli wella proses 'pontio gofal’.

Cwmnïau creadigol sydd â phrofiad o un o'r meysydd canlynol i gymryd rhan mewn cydweithrediad Ymchwil a Datblygu newydd cyffrous:

  • defnydd creadigol o adrodd straeon ymgolli
  • defnyddio adrodd straeon ymgolli ar gyfer iechyd
  • defnydd creadigol o Ddeallusrwydd Artiffisial

Mae'r fenter yn mabwysiadu dull arloesi a arweinir gan nyrsys er mwyn datblygu prototeip sy'n gallu cefnogi pobl ifanc sy'n ddifrifol wael ledled y DU wrth bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion (cyfeirir ato fel 'Pontio Gofal' yn y GIG). 

Bydd y cwmni buddugol yn ennill £40,000 (yn cynnwys TAW) o gyllideb cynhyrchu ymchwil a datblygu, gyda dros £40,000 o gymorth mewn nwyddau gan StoryFutures a'r Roald Dahl Marvellous Children’s Charity.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Sul 29 Tachwedd 2020 am hanner nos.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Story Futures.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.