BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth astudiaethau dichonoldeb ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial: Cyfres 2

AI

Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o hybu cynhyrchiant a datrys heriau yn eich busnes?

Neu, a oes gennych ateb Deallusrwydd Artiffisial (AI) arloesol a allai fod o fudd i fusnesau sy'n gweithredu mewn sectorau â photensial am dwf uchel?

Os ydych, yna mae'r gystadleuaeth hon yn addas i chi.

Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £5 miliwn mewn cyllid grant i gefnogi astudiaethau dichonoldeb ar y cyd ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial ar draws ystod o sectorau diwydiant allweddol, gan gynnwys:

  • Amaethyddiaeth a phrosesu bwyd
  • Adeiladu
  • Diwydiannau Creadigol
  • Trafnidiaeth (gan gynnwys logisteg a warysau)

Mae cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yn cau ar 8 Mai 2024.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Competition overview - Feasibility studies for AI solutions: Series 2 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.