BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth benthyciadau arloesi economi'r dyfodol: rownd pump

Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fentrau micro, bach a chanolig eu maint (BBaCh). Mae benthyciadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu cyfnod hwyr hynod arloesol sydd â’r potensial gorau ar gyfer y dyfodol. Dylai fod llwybr clir at fasnacheiddio ac effaith economaidd.

Rhaid i'ch prosiect arwain at gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd sy’n sylweddol o flaen eraill sydd ar gael ar hyn o bryd neu'n cynnig defnydd arloesol o gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau presennol. Gall hefyd gynnwys model busnes newydd neu arloesol. 

Rhaid i chi allu dangos eich bod:

  • angen arian cyhoeddus
  • yn gallu talu taliadau llog
  • yn gallu ad-dalu'r benthyciad ar amser

Y dyddiad cau i wneud cais yw 14 Medi 2022.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Competition overview - Innovation Loans Future Economy Competition – Round 5 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.