BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Economi’r Dyfodol Benthyciadau Arloesi - Cylch 1

Mae Innovate UK yn cynnig hyd at £25 miliwn mewn benthyciadau i fentrau meicro, bach a chanolig. Mae’r benthyciadau ar gyfer prosiectau ymchwil a datblygu arloesol iawn sydd wedi cyrraedd cam hwyr yn y broses ac sydd â’r potensial gorau ar gyfer y dyfodol. Dylid cael llwybr clir i fasnacheiddio ac effaith economaidd.

Bydd y benthyciadau yn cefnogi prosiectau arloesol sydd â’r potensial cryfaf i gefnogi twf economaidd yn y dyfodol a mynd i’r afael â heriau cymdeithasol, ar draws meysydd fel: 

  • sero net
  • iechyd a lles
  • technolegau digidol y genhedlaeth nesaf

Yn ogystal â ‘7 Teulu Technoleg’ y Strategaeth Arloesi - deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch; bioleg beirianyddol; electroneg; synwyryddion, ffotoneg a chwantwm; a roboteg a pheiriannau clyfar.

Mae’n rhaid i’ch prosiect arwain at gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd sydd ymhell ar y blaen i eraill sydd ar gael ar hyn o bryd neu’n cynnig defnydd arloesol o gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau presennol. Gall hefyd gynnwys model busnes newydd neu arloesol.

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n canolbwyntio ar feysydd economi’r dyfodol sydd wedi’u cynnwys yng nghynllun gweithredu Innovate UK.

Mae Cylch 1 y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 13 Ebrill 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Competition overview - Innovation Loans Future Economy Competition – Round 1 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.