BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Gŵyl y Gelli ar gyfer pobl ifanc greadigol

Hay Festival

Mae Gŵyl y Gelli yn gwahodd ceisiadau ar gyfer cystadleuaeth The Platform, cyfle newydd a chyffrous i bobl ifanc greadigol arddangos a rhannu eu gwaith yng Ngŵyl y Gelli 2024.

Nod The Platform yw helpu i hyrwyddo, cefnogi a datblygu artistiaid creadigol ifanc rhagorol sy’n cychwyn ar eu gyrfaoedd, trwy ddod â’u gwaith i un o wyliau celfyddydol mwyaf poblogaidd y byd.

Mae ceisiadau’n cael eu gwahodd gan bobl greadigol rhwng 21 a 28 oed sy’n cychwyn arni mewn sawl maes celfyddydol gan gynnwys perfformio (theatr, dawns, stryd), barddoniaeth, celf ddigidol, ffilm, sain, cerddoriaeth a llenyddiaeth. Gall celf weledol fod yn bosibl; ond bydd yn gyfyngedig o ran maint a chapasiti arddangos/gosod, ond mae'r trefnwyr yn barod i glywed sut y gallai hyn weithio yng nghyd-destun yr ŵyl.

Cynhelir cystadleuaeth The Platform yng Ngŵyl y Gelli ddydd Mercher 29 Mai 2024 (dydd Iau 23 Mai tan ddydd Sul 2 Mehefin 2024 yw dyddiadau’r Ŵyl) a bydd yn digwydd ar draws safle’r Ŵyl dan do ac yn yr awyr agored.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 2pm, dydd Mercher 17 Ebrill 2024.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: The Platform yng Ngŵyl y Gelli  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.