BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth i gael cyllid gwerth £10,000 Solve for Tomorrow

Cystadleuaeth genedlaethol yw Solve for Tomorrow sy’n galluogi’r genhedlaeth nesaf o arloeswyr y DU i newid y byd er gwell. Nid oes angen cymwysterau. Nid oes angen arbenigedd. Dim ond syniad sy’n defnyddio technoleg a dyhead i wneud gwahaniaeth.

Os ydych chi rhwng 16 a 25 a bod gennych chi syniad technoleg rhagorol ar gyfer cynnyrch, gwasanaeth neu ap technoleg newydd a allai wneud gwahaniaeth go iawn i’r bobl a’r cymunedau yn yr angen mwyaf, o fewn un o’r 4 maes her canlynol, yna mae Solve for Tomorrow am glywed gennych chi:

  • unigrwydd cymdeithasol
  • amrywiaeth a chynhwysiant
  • addysg
  • cynaliadwyedd

Bydd yr enillydd yn ennill gwobr ariannol o £10,000 ac mae’r gystadleuaeth yn cau ar 21 Chwefror 2021 am hanner nos.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Samsung.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.