BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth Llyfrgell Delweddau Cadarnhaol Iechyd Meddwl

Indoor studio shot of photographer holding her camera in both hands, looking at photos.

Helpwch y Sefydliad Iechyd Meddwl i newid sut mae pobl yn gweld iechyd meddwl ac ennill hyd at £600!

Mae eu hymchwil wedi dangos bod pobl yn aml yn teimlo fel na allant uniaethu â’r delweddau sy’n cael eu defnyddio yn y cyfryngau pan fyddant yn siarad am y pethau sy’n gallu helpu ein hiechyd meddwl. Gyda’ch cymorth chi, mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl eisiau newid hynny.

Maent yn creu llyfrgell o ddelweddau sydd ar gael i bawb sy’n cynrychioli pobl go iawn yn gofalu am eu hiechyd meddwl, ac yn croesawu cyflwyniadau gan ffotograffwyr proffesiynol ac amatur.

Cyflwynwch eich delweddau cyn 11.59pm ddydd Sul 10 Rhagfyr 2023 i gymryd rhan mewn raffl a chystadleuaeth.

  • Bydd un cyflwyniad sy’n cael ei dynnu ar hap yn ennill gwobr o daleb stryd fawr, gwerth £500.
  • Bydd enillydd ar gyfer pob categori, wedi’i ddewis gan eu panel ac aelodau o ‘Ein Rhwydwaith Profiad Personol’, yn ennill gwobr o daleb stryd fawr, gwerth £100.
  • Bydd enillydd cyffredinol, wedi’i ddewis o enillwyr y categori, yn derbyn gwobr ychwanegol o daleb stryd fawr, gwerth £500.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Positive mental health image library | Mental Health Foundation

Rydym yn gwybod bod cynnydd mewn costau yn her fawr i fusnesau a gall hyn gael effaith ar ein hiechyd meddwl a’n lles. P’un a ydych chi’n hunangyflogedig neu’n berchennog busnes, dylem gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni ac iechyd meddwl ein cyflogeion. I gael gwybod sut, dewiswch y ddolen ganlynol: Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.