BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Lles ac Iechyd Meddwl

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ac yn gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles. P'un a ydych chi'n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylen ni gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni a’n gweithwyr. 

Mae toreth o gymorth ar gael ichi ar-lein: 

GIG - 5 cam at les meddyliol 

Y pum ffordd i sicrhau lles yw cyfres o negeseuon sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyda'r nod o wella iechyd meddwl a lles y boblogaeth gyfan. Fe'u datblygwyd gan y Sefydliad Economeg Newydd o dystiolaeth a gasglwyd yn y prosiect Foresight Mental Capital and Wellbeing (2008).
Y pum ffordd yw:

Mae'r GIG yn rhestru pum peth syml (ar eu gwefan) y gallwn ni i gyd eu gwneud i roi hwb i'n llesiant ni. I gael rhagor o wybodaeth dilynwch y ddolen yma: 5 steps to mental wellbeing - NHS (www.nhs.uk)

Llinell gymorth C.A.L.L. 

Cynigir C.A.L.L. cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl yng Nghymru. Gall unrhyw un sy'n poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain neu iechyd meddyliol perthynas neu gyfaill gael mynediad i'r gwasanaeth. Mae llinell gymorth C.A.L.L. yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol.

Rhif ffon: 0800 132 737

Wefan: C.A.L.L. Mental Health Helpline - Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (callhelpline.org.uk) 


Y Samariaid

Mae'r Samariaid yn cynnig toreth o gymorth a chefnogaeth drwy eu canolfan cyswllt a’u gwasanaethau e-bost. 

Rhif ffon: 116 123
Rhif ffon linell Cymraeg: 0808 164 0123
E-bost: jo@samaritans.org

Wefan: Samaritans yng Nghymru | Samaritans

Ysgrifennu llythyr yn Gymraeg: 
Rhadbost RSRB-KKBY-CYJK
Chris
PO Box 9090
STIRLING FK8 2SA


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.