BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd cyllido a buddsoddi diweddaraf

Cyflymydd Digidol Byw Sero Net Rownd 1

Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn i ddatblygu cymwysiadau digidol i ddatrys heriau wrth ddarparu sero net ar gyfer lleoedd. Mae'r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 7 Mehefin 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - Net Zero Living Digital Accelerator round 1 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

 

Cystadleuaeth Benthyciadau Arloesi Economi’r Dyfodol: Rownd 9

Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am fenthyciadau ar gyfer prosiectau arloesi sydd â photensial masnachol cryf i wella economi'r DU yn sylweddol. Mae'r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 12 Gorffennaf 2023. Cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - Innovation Loans Future Economy Competition: Round 9 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

 

£1 miliwn o gyllid ar gael ar gyfer cystadleuaeth Humans in Systems

Mae'r Cyflymydd Amddiffyn a Diogeledd (DASA) wedi lansio Cystadleuaeth â thema newydd o'r enw 'Humans in Systems: Accelerating Interaction Innovation', a ariennir gan y Labordy Technoleg a Gwyddoniaeth Amddiffyn (Dstl). Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw hanner dydd, 19 Gorffennaf 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol £1 million funding available for £1 million funding available for Humans in Systems competition - GOV.UK (www.gov.uk)

 

Ymchwil a Datblygu Cydweithredol y DU-Taiwan

Gall busnesau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn er mwyn datblygu cynigion arloesol gyda Taiwan. Mae'r gystadleuaeth yn cau am 11am ar 19 Gorffennaf 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - UK-Taiwan Collaborative R&D - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

 

Cyfleoedd Buddsoddi a Chronfa Cyngor Arloesi Ewrop (EIC)

Mae'r Gronfa EIC yn darparu ecwiti o €0.5m i €15m i gwmnïau arloesi cychwynnol sy’n cael eu dewis ar gyfer cymorth ariannol cyfunol (grant ac ecwiti)  EIC Accelerator. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Investment opportunities (europa.eu) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.