BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Darogan Talent - Gwefan Graddedigion

Job interview

Ydych chi'n chwilio am bobl dalentog? 

Mae Darogan Talent wedi adeiladu gwefan i raddedigion, lle canolog sy'n caniatáu i gyflogwyr yng Nghymru gysylltu â myfyrwyr a graddedigion diweddar. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â'r rhai a astudiodd y tu allan i Gymru.

Trwy eu platfform a'u digwyddiadau digidol, gallwch gysylltu â thalent graddedig mewn ffordd nad ydych erioed wedi o'r blaen. Yn benodol, maent yn rhoi pwyslais unigryw ar ehangu'r gronfa dalent i gyflogwyr, drwy gyrraedd y 37% o fyfyrwyr o Gymru sy'n dewis astudio y tu allan i Gymru.

Maent hefyd yn darparu cymorth ymgynghori, fel recriwtio a chymorth ymchwil pwrpasol, i ddiwallu eich anghenion penodol.

Gallwch anfon neges atynt i drefnu sgwrs i drafod sut y gallant eich cefnogi.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Darogan Talent: Wales' Graduate Hub


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.