BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cyflenwi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Ddoe (5 Rhagfyr 2022), cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymeradwyo pedwar cynllun buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin yng Nghymru, i ddisodli cyllid yr UE yr oedd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am wneud penderfyniadau yn ei gylch ac a oedd yn destun gwaith craffu gan y Senedd. Mae hyn yn golygu, gyda llai na phedwar mis yn weddill yn y flwyddyn ariannol hon, y gall dyraniadau cyllid ar gyfer 2022-23 yn awr gael eu rhyddhau i awdurdodau lleol Cymru i wario ar brosiectau sy'n ymwneud â chymunedau a llefydd, busnesau lleol, a phobl a sgiliau, prosiectau a ddylai fod wedi dechrau eisoes. Nid yw’n debygol y bydd y gyllideb flynyddol gyfan yn cael ei gwario yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon.

Mae cyfanswm dyraniad y Gronfa Ffyniant Gyffredin o £585 miliwn i Gymru £1.1 biliwn yn llai o gymharu â chyllid UE. Mae'r toriad sylweddol hwn yn y cyllid wedi'i ddwysáu gan sawl achos o oedi ers cyhoeddi'r Gronfa Ffyniant Gyffredin gyntaf yn 2017. Mewn cyferbyniad â hynny, roedd Llywodraeth Cymru yn barod i ddechrau rhaglen fuddsoddi ôl-UE bron i ddwy flynedd yn ôl ym mis Ionawr 2021.

Erbyn hynny roeddem eisoes wedi gweithio'n ddwys gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a'n partneriaid yng Nghymru i greu'r model cryfaf posibl ar gyfer Cymru. Mae’n bwysig cofio bod y ffigur o £585 miliwn ar gyfer Cymru cyn y brigdorri gwerth £101 miliwn a osodwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y rhaglen ‘Lluosi’ y maent wedi’u chreu ym maes datganoledig rhifedd oedolion.

O ganlyniad uniongyrchol i’r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â’r Gronfa, mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn cael eu hanwybyddu ar fater datganoledig.

Nid oes gan brifysgolion, colegau, y trydydd sector na busnesau chwaith fynediad uniongyrchol at gyllid, sy’n golygu bod llawer o'r sectorau hyn bellach yn nodi eu bod yn diswyddo ac yn dod â chynlluniau hanfodol i ben.

Yn sgil yr argyfwng economaidd a'r prinder cyllid cyhoeddus, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ailystyried cyfeiriad y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn y dyfodol. Mae hynny’n cynnwys rôl cydbenderfynu i Weinidogion Cymru a chefnogaeth i raglenni hollbwysig yng Nghymru a oedd yn arfer cael eu hariannu gan yr UE. Mae rhai o’r rhaglenni hyn yn hanfodol i gefnogi cynhyrchiant a thwf, megis Busnes Cymru, prentisiaethau, y Banc Datblygu a'n rhaglenni arloesi.

I ddarllen y datganiad cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Cyflenwi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (6 Rhagfyr 2022) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.