BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn i'r rhai yr ystyrir y byddent yn elwa fwyaf ar gael eu Brechu

person administering an injection

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Heddiw (7 Chwefror 2024), yn rhan o'i adolygiad diweddaraf ar raglen frechu COVID-19, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi cyhoeddi datganiad sy'n argymell brechiad atgyfnerthu y gwanwyn ar gyfer y bobl hynny y mae'n ystyried y byddent yn elwa fwyaf ar gael eu brechu.

Prif nod rhaglen frechu COVID-19 o hyd yw atal clefydau difrifol (sy'n arwain at orfod mynd i'r ysbyty a marwolaethau) yn sgil COVID-19. Fel strategaeth ragofalus, mae'r Cyd-bwyllgor wedi argymell y dylai'r bobl a ganlyn gael dos atgyfnerthu yn y gwanwyn:

  • oedolion 75 oed a throsodd;
  • pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, ac
  • unigolion 6 mis oed a throsodd sy'n imiwnoataledig (fel y'i diffinnir yn nhabl 3 neu 4 yn y Llyfr Gwyrdd).

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn i'r rhai yr ystyrir y byddent yn elwa fwyaf ar gael eu brechu (7 Chwefror 2024) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.