BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd datganiad ysgrifenedig.

Yn gynharach y mis hwn, llofnodais Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022. Mae'r Gorchymyn yn gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol.

Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar argymhellion Panel Cynghori Amaethyddol Cymru i symleiddio a moderneiddio'r Gorchymyn, ac maent yn cynnwys:

  • strwythur graddio a disgrifiadau graddau newydd;
  • newidiadau i'r cyfraddau cyflog a lwfansau isaf;
  • dileu'r Rhestrau cymwysterau sydd wedi dyddio a gynhwyswyd mewn Gorchmynion blaenorol;
  • sefydlu llwybr dilyniant sy'n seiliedig ar gymwysterau drwy'r strwythur graddio sy'n seiliedig ar gymwysterau o fewn Fframwaith Prentisiaeth perthnasol Llywodraeth Cymru; a
  • eglurhad o'r lwfans gwrthbwyso ar alwad a llety.

Daeth y Gorchymyn newydd i rym ar 22 Ebrill 2022 a chaiff ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2021. Bydd hyn yn ad-dalu'r gweithwyr amaethyddol hynny a fyddai wedi disgwyl cynnydd yn eu cyflog fesul awr o'r dyddiad hwn, fel y cynigiwyd yn ymgynghoriad y Panel yn hydref 2020. O ganlyniad, efallai y bydd angen i rai cyflogwyr wneud ôl-daliadau i rai o'u gweithwyr.

Mae gwybodaeth a chanllawiau manylach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rwyf yn ddiolchgar i'r Panel a'i Gadeirydd, Nerys Llewelyn Jones, am eu hymdrechion sylweddol i gyflwyno'r gorchymyn cyflogau newydd. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.