BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Review of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No.5) (Wales) Regulations 2020

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Gallwn nawr edrych yn fwy hyderus tua’r dyfodol a chynllunio ar gyfer dechrau codi cyfyngiadau rhybudd lefel dau. Rydym heddiw yn cyhoeddi cynllun i ddychwelyd i lefel rhybudd sero.  Fel o’r blaen, byddwn yn dechrau trwy lacio’r cyfyngiadau yn yr awyr agored.

Mae un newid yn cael ei wneud ar unwaith – o fory (15 Ionawr 2022), bydd nifer y bobl sy’n cael bod mewn digwyddiad awyr agor yn cynyddu o 50 i 500. Ni fydd y nifer hwnnw’n cynnwys y rheini sy’n cymryd rhan mewn gemau tîm. Mae’n golygu y caiff 500 o wylwyr fod yn bresennol.

Os bydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn parhau i godi cyfyngiadau lefel rhybudd dau fesul cam.

O ddydd Gwener, 21 Ionawr 2022, bydd gweithgareddau awyr agored yn symud i lefel rhybudd sero:

  • Byddwn yn codi’r cyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored.
  •  Bydd modd cynnal lletygarwch yn yr awyr agored heb y mesurau rhesymol ychwanegol fel y rheol o chwech a’r gofyn i weini wrth fyrddau.
  • Bydd dal angen Pas Covid i gael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mwy.

Cyn belled â bod y duedd am i lawr yn parhau, o ddydd Gwener, 28 Ionawr 2022, byddwn yn symud i lefel rhybudd sero o ran pob gweithgaredd dan do:

  • Bydd clybiau nos yn cael ailagor.
  • Bydd gofyn i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu coronafeirws.
  • Ni fydd angen cadw mwyach at y rheol cadw pellter o 2m ar safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd a gweithleoedd.
  • Ni fydd angen i gynulliadau gadw at y rheol o chwech mwyach mewn safleoedd rheoledig, fel lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig weini wrth fyrddau a chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd Llywodraeth Cymru’n dal i gynghori pobl i weithio gartref ond ni fydd mwyach yn ofyn cyfreithiol.
  • Bydd dal angen Pas Covid i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau.

Bydd pob rheol lefel rhybudd sero arall, gan gynnwys bod pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf covid yn hunanynysu a’r gofyn i wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr 2022.

Erbyn dydd Gwener 11 Chwefror 2022, byddwn wedi dychwelyd i’r cylch adolygu tair wythnos. Caiff adolygiad ei gynnal erbyn 10 Chwefror 2022. Byddwn yn adolygu pob cyfyngiad lefel rhybudd sero fydd yn dal mewn grym ac yn cyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i LLYW.CYMRU 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.