BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Covid-19

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Bydd y cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Covid-19 yn dod i ben ar 31 Awst. Rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Mehefin 2022, mae’r cynllun hwn wedi darparu £8.2 miliwn mewn cymorth ariannol i’r gweithlu gofal cymdeithasol.

Mae’r cynllun wedi sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi gorfod hunanynysu neu aros gartref oherwydd Covid wedi cael tâl llawn. Mae hyn wedi darparu cymorth pwysig i’r gweithlu gofal cymdeithasol ac wedi helpu i atal heintiau ymysg rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod cyfnodau pan oedd y pandemig yn ei anterth.

Mae tystiolaeth ddiweddar Arolwg Heintiadau Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod nifer yr achosion o Covid-19 yn y gymuned yn lleihau ar hyn o bryd. Rydym yn adolygu profion asymptomatig ar gyfer staff gofal cymdeithasol, a byddwn yn gwneud cyhoeddiad cyn bo hir.

Mae staff gofal cymdeithasol rheng flaen a phreswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechiadau atgyfnerthu rhag Covid-19 yn yr hydref. Bydd y brechiadau hyn yn cael eu rhoi o ddechrau mis Medi ymlaen, gan ddarparu amddiffyniad cryfach i staff gofal cymdeithasol a’n dinasyddion mwyaf agored i niwed.

Wrth inni ddechrau symud o gyfnod o ymateb brys i’r pandemig i gyfnod o adfer, mae’n briodol ein bod yn dod â’r cynllun dros dro hwn i ben. Mae cyllid canlyniadol oddi wrth Lywodraeth y DU ar gyfer yr ymateb i Covid wedi dod i ben.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Y Cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer Covid-19 (26 Awst 2022) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.