BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Wcráin – Rhagfyr 2022

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Wrth inni nesáu at y Nadolig, rwyf am roi gwybod i’r Aelodau am faterion diweddar sy’n ymwneud â'n hymateb dyngarol parhaus i sefyllfa Wcráin. Wedi misoedd o ofyn am sicrwydd ynghylch ariannu cynllun Cartrefi i Wcráin yn y dyfodol, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhywfaint o eglurder ar nifer o faterion rydym wedi eu trafod yn y Siambr.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid Cartrefi i Wcráin yn y dyfodol yn cynnwys estyn cyfnod y taliadau 'diolch' i’r bobl sy’n cynnig llety hyd at ddiwedd yr ail flwyddyn ar ôl i Wcreiniad gyrraedd y DU – rhywbeth yr oeddem wedi gofyn amdano droeon. Bydd hefyd yn cael ei godi i £500 y mis os bydd yr Wcreiniad sy’n cael ei letya eisoes wedi bod yn y DU am 12 mis.

Roeddem wedi gofyn am y codiad hwn i fod ar gael yn ystod y gaeaf hwn er mwyn helpu pobl i ymdopi â biliau ynni uchel a helpu i atal digartrefedd. Yn anffodus dim ond o ddiwedd gwanwyn 2023 ymlaen y bydd ar gael.

Mae'r cyhoeddiad ariannol hefyd yn cynnwys newyddion siomedig na fydd taliad tariff ar gyfer blwyddyn dau i Wcreiniaid sydd â fisa dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae hyn yn anghyson â llwybrau adsefydlu eraill Llywodraeth y DU, a bydd yn rhoi pwysau aruthrol ar awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Wcráin – Rhagfyr 2022 (21 Rhagfyr 2022) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.