BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datgelu cynlluniau ar gyfer cofrestru statudol a chynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru

Bedroom

Mae cynlluniau i gyflwyno cynllun cofrestru a thrwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw (9 Ionawr 2024) gyda disgwyl i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i'r Senedd cyn diwedd y flwyddyn.

Bwriad y cynllun cofrestru a thrwyddedu yw cyflwyno cofrestr o fathau o lety i ymwelwyr a galluogi darparwyr i ddangos cydymffurfiaeth â gofynion diogelwch ac ansawdd.

Y bwriad yw gwella profiad ymwelwyr a'r disgwyliadau o ran diogelwch ymwelwyr yng Nghymru drwy sicrhau bod unrhyw un sy'n gosod llety ymwelwyr yn bodloni cyfres berthnasol o safonau.

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ymgysylltu'n helaeth â'r sector, yn ogystal ag arolwg a gyhoeddwyd yn ddiweddar a ganfu fod 89% o ymwelwyr o'r farn ei bod yn bwysig bod y llety y maent yn aros ynddo yn gweithredu'n ddiogel.

Mae sawl rhan o'r byd eisoes wedi mabwysiadu cynlluniau trwyddedu, ardystio neu gofrestru ar draws eu sectorau llety ymwelwyr ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried yr arferion gorau i greu un sy'n syml ac yn hawdd ei ddefnyddio ar gyfer darparwyr llety yng Nghymru.

Ar draws y DU, mae cynllun ardystio Gogledd Iwerddon wedi'i sefydlu ar gyfer pob llety i ymwelwyr ers 1992, gyda'r Alban wedi cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer gosod tymor byr yn ddiweddar. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn bwriadu dilyn dull cofrestru ar gyfer gosod tymor byr.

Yng Nghymru, bydd y cam cyntaf yn gynllun cofrestru statudol ar gyfer pob darparwr llety, a fydd - am y tro cyntaf - yn darparu cofrestr ar yr ystod eang o lety i ymwelwyr sydd ar gael ledled y wlad a bydd yn cynnwys manylion am bwy sy'n gweithredu yn y sector, ble maent yn gweithredu, a sut maent yn gweithredu.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.