BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Trwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig yng Nghymru

Tattoo artist

Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar reoliadau a chanllawiau statudol drafft i sefydlu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio.

Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn nodi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cynllun.

Y bwriad yw cychwyn Rhan 4 o'r Ddeddf a rhoi'r cynllun trwyddedu ar waith yn ei gyfanrwydd. Rydym eisoes wedi ymgynghori ar egwyddorion y cynllun, ac mae’r ymatebion a gawsom wedi llywio’r rheoliadau drafft. Rydym hefyd yn ymgynghori ar ganllawiau statudol drafft a roddir o dan adran 66(11) o'r Ddeddf ynghylch y materion sydd i gael eu hystyried gan awdurdodau lleol wrth benderfynu a oes amheuaeth wedi ei chodi, ac os felly, i ba raddau, ynghylch addasrwydd ceisydd i roi triniaeth arbennig.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 8 Ebrill 2024. Yna, bydd y rheoliadau terfynol yn cael eu llunio a’u gosod gerbron y Senedd.

Gallwch weld y ddogfen ymgynghori a’r rheoliadau drafft drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Rheoliadau a chanllawiau statudol drafft ar drwyddedu gorfodol ar gyfer triniaethau arbennig | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.