BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Arweinwyr Haf Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) – Gogledd Cymru

business lunch

Gwahoddir arweinwyr busnes yng Ngogledd Cymru i ddigwyddiad a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai sy'n bresennol am ailddatblygu a buddsoddi yn rhanbarth Gogledd Cymru. Trefnir y digwyddiad gan gangen Gogledd Cymru Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) ac mae'n gyfle gwych i gwrdd ag arweinwyr busnes eraill.

Cynhelir y digwyddiad ar 16 Awst 2024 yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug.

Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn costio £24 i aelodau IoD Cymru, ac mae’r tocynnau i bobl  nad ydynt yn aelodau yn £36.

Am ragor o fanylion ac i gadw eich lle, ewch i: IoD Summer Leaders Lunch

Gwybodaeth am ddigwyddiadau Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) sydd ar y gweill yng Nghymru: Wales | Business Events | Institute of Directors (iod.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.