Mae Grŵp yr Adran Drafnidiaeth (DfT) a rhanddeiliaid allweddol eraill yn cynnal Digwyddiadau i Gyflenwyr Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) wyneb-yn-wyneb yn Neuadd Brangwyn, Abertawe ar 20 Hydref 2022 i gynnig cyfle i BBaChau rwydweithio ag uwch gynrychiolwyr o bob rhan o’r Adran. Dyma’r cyntaf o sawl digwyddiad rhanbarthol a fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys:
- prif araith gan Paul Rodgers, Cyfarwyddwr Masnachol Grŵp yr Adran Drafnidiaeth a noddwr BBaChau Grŵp Arweinyddiaeth Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth.
- cyflwyniad gan Martin Traynor, Cynrychiolydd BBaCh y Goron, ar y Bil Caffael.
- rhwydweithio â’r Adran Drafnidiaeth, HS2 Ltd, Network Rail, National Highways, DVLA, yr Adran Masnach Ryngwladol a llawer mwy i wella tryloywder gwybodaeth am lif prosiectau a chyfleoedd i arloesi.
- cyflenwyr allweddol yn rhannu arfer gorau ar sut i ddod yn isgontractwyr yn y gadwyn gyflenwi.
- bydd rhwydweithio â Gwasanaethau Masnachol y Goron yn rhoi manylion am y fframweithiau sydd ar gael sy’n addas i BBaChau a sut i ymrestru.
- fideo gan y Gwasanaethau Adolygu Caffael Cyhoeddus (PPRS) – mae PPRS yn galluogi cyflenwyr i godi unrhyw bryderon sydd ganddynt am brynu yn y sector cyhoeddus a thalu’n brydlon yn ddienw. Mae’r fideo yn rhoi gwybodaeth am rôl PPRS a’r broses uwchgyfeirio.
I fynegi eich diddordeb yn y digwyddiad hwn, llenwch arolwg drwy glicio’r ddolen hon erbyn diwedd y dydd ar 27 Medi 2022.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â GCDSMELead@dft.gov.uk