BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Rhithwir Global Research and Innovation in Plastics Sustainability 2021

Cynhadledd, arddangosfa a sioe arddangos yw Global Research and Innovation in Plastics Sustainability a gynhelir ar-lein rhwng 16 ac 18 Mawrth 2021.

Bydd yn dwyn ynghyd cwmnïau ac unigolion i dynnu sylw at y gorau o weithgareddau’r DU a detholiad o weithgareddau tramor a fydd yn arwain at ei gwneud yn llai tebygol i blastigion (gan gynnwys teiars, tecstilau synthetig a pholymerau bio neu y gellir eu compostio) gyrraedd safleoedd tirlenwi neu gael eu llosgi.

Cyfleoedd i Arddangoswyr

Drwy arddangos yn GRIPS byddwch yn codi proffil eich cwmni a rhannu’ch cynnig cynaliadwyedd plastigion gyda chynulleidfa fyd-eang. Dyma’r Pecyn Arddangoswyr GRIPS .

Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhithiwr, ewch i wefan GRIPS.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.