BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Ymgysylltu â Diwydiant CCAV

Mae’r Ganolfan Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd (CCAV) ynghyd ag Innovate UK, Innovate UK KTN a ZENZIC yn eich gwahodd i ymuno â nhw mewn digwyddiad ymgysylltu â diwydiant ar 24 Mai 2022, ar-lein ac yn y Ganolfan Genedlaethol Ecsbloetio Digidol yng Nglynebwy, Cymru. 

Mae’r digwyddiad hwn yn cynnwys diweddariad pwysig gan CCAV ar eu cynlluniau am y blynyddoedd i ddod sy’n gysylltiedig â symudedd cysylltiedig ac awtonomaidd. Bydd CCAV yn rhoi diweddariad bras ar gynlluniau ar gyfer defnyddiau masnachol CAM mewn lleoliadau cyhoeddus a phreifat, a symudedd pobl a nwyddau, astudiaethau dichonoldeb mewn atebion trafnidiaeth dorfol a chefnogaeth cadwyn gyflenwi.

I gael mwy o wybodaeth a chadw lle, ewch i Digwyddiad Ymgysylltu â Diwydiant Canolfan Cerbydau Cysylltiedig ac Awtonomaidd (CCAV) - KTN (ktn-uk.org) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.