BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau Tramor

Gall ymweld â’r farchnad fod yn rhan hollbwysig o ennill a chadw busnes, boed hynny’n golygu mynychu neu arddangos mewn arddangosfa neu sioe fasnach, neu ymweld â'r farchnad a chwsmeriaid posibl. Dewiswyd y marchnadoedd a'r arddangosfeydd yn ein rhaglen i adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i Fusnesau Cymru.

Gall arddangos dramor gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o hyrwyddo’ch cwmni, boed gyda’ch pod arddangos eich hun, neu fel ymwelydd â’r sioe.

Manteisiwch ar gyfleoedd masnachol ffres, ehangwch eich partneriaethau a deallwch y datblygiadau technolegol diweddaraf yn y sioeau hyn:

  • JEC World (Composites) 25-27 Ebrill 2023: Paris – dyddiad cau'r Cais yw 19 Ionawr 2023
  • MRO Americas 17-21 Ebrill: Atlanta – dyddiad cau'r Cais yw 26 Ionawr 2023
  • Paris Air Show – 19-23 Mehefin 2023 – cofrestrwch eich diddordeb

Dilynwch eich taith allforio gyda'n digwyddiadau Tramor, Yng Nghymru a Phartneriaid, i gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Digwyddiadau tramor | Drupal (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.