BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025

Bydd Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 yn cael ei datgelu’n fuan. Bydd y lleoliad buddugol yn cael ei ddewis o blith rhestr fer o 4 lle yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys Bradford, Swydd Durham, Southampton a Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Sut i gymryd rhan

Cyn i’r enillydd gael ei gyhoeddi, bydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cael sylw trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ar ddydd Llun 23 Mai 2022. 

Mae gan Bradford, Swydd Durham, a Southampton ddiwrnod penodol yr un ar gyfryngau cymdeithasol hefyd.

Gallwch ddangos eich cefnogaeth a chymryd rhan mewn dathlu’r hyn rydych chi’n ei garu am Fwrdeistref Sirol Wrecsam ar y diwrnod hwn ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol trwy:

  • Ddilyn DCMS ar Twitter, Instagram a Facebook i ddilyn a rhannu cynnwys DCMS.
  • Rhannu eich negeseuon cefnogaeth i’ch hoff ddinas sydd ar y rhestr fer ar ei diwrnod.
  • Postio delweddau a fideos am eich hoff fannau i ymweld â nhw a’u mwynhau yn y dinasoedd hyn.
  • Rhannu eich straeon a’ch ffeithiau am yr hyn sy’n gwneud pob lle sydd ar y rhestr fer yn unigryw.
  • Gwneud yn siŵr eich bod yn cynnwys eich dinas fel hashnod ochr yn ochr â’r hashnod #DinasDiwylliant2025 i ymuno â’r sgwrs.

Mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 yn dilyn llwyddiant dinasoedd buddugol blaenorol: Coventry 2021 sy’n parhau tan ddiwedd mis Mai 2022, Hull yn 2017 a Derry-Londonderry yn 2013.

I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â Dathlu eich lleoliad Dinas Diwylliant y Deyrnas Unedig 2025 sydd ar y rhestr fer - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.