BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelu’r Dyfodol: Menywod ym maes Seiber

woman using a laptop

Mae Menywod yn Seiber Cymru yn falch o fod yn cynnal cynhadledd seiberddiogelwch genedlaethol ar gyfer menywod a chynghreiriaid ar 22 Chwefror 2024 yn ICC Cymru, Casnewydd.

Bydd y digwyddiad yn dathlu’r gwaith y mae menywod yn ei wneud yn y sector, gan arddangos eu doniau ar draws amrywiaeth o wahanol rolau ac amlygu pwysigrwydd gweithlu cynhwysol.

Bydd y sesiynau’n cynnwys:

  • bygythiadau a heriau seiberddiogelwch cyfredol
  • datblygu sgiliau
  • arweinyddiaeth a mentora
  • tyfu eich rhwydwaith
  • sesiwn Cipio’r Faner ryngweithiol, sy’n addas i bob lefel.

I gael rhagor o wybodaeth ac archebu tocyn, dewiswch y ddolen ganlynol: Securing the Future: Women in Cyber Tickets, Thu 22 Feb 2024 at 09:00 | Eventbrite

I gael gwybod mwy am Seiber Cymru, dewiswch y ddolen ganlynol: Cyber Wales 

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd a chyfraniad entrepreneuriaid sy'n fenywod at economi Cymru: Cefnogi Merched yng Nghymru | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.