BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad ar dollau: Effaith gweithredu diwydiannol

Mae undeb y PCS wedi cyhoeddi y bydd gweithredu diwydiannol gan rai aelodau Llu'r Ffiniau rhwng 23 Rhagfyr 2022 a 26 Rhagfyr 2022, a rhwng 28 Rhagfyr 2022 a 31 Rhagfyr 2022, yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes Awyr Birmingham 
  • Maes Awyr Caerdydd 
  • Maes Awyr Gatwick 
  • Maes Awyr Glasgow 
  • Heathrow T 2, 3, 4 a 5 
  • Maes Awyr Manceinion
  • Porthladd Newhaven  

Os ydych yn bwriadu symud nwyddau ar y dyddiadau yr effeithir arnynt 

Gallai'r gweithredu diwydiannol hwn arwain at aflonyddwch mewn porthladdoedd, meysydd awyr, a Chyfleusterau Ffiniau Mewndirol (IBF) gan gynnwys ciwiau, a dylech fod yn barod am hyn.  

Os ydych yn gallu symud nwyddau y tu allan i'r cyfnod hwn, yna byddem yn cynghori eich bod yn gwneud hynny ac i wirio â'ch gweithredwr cyn teithio. 

Gallwch wirio argaeledd safle IBF ar-lein.
 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.