BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad CThEM ar gyfer cyflogwyr – trothwyon NIC yn eich cyflogres ym mis Gorffennaf

Sicrhewch eich bod yn adlewyrchu trothwyon NIC uwch yn gywir yn eich cyflogres ym mis Gorffennaf.

Ar 23 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai trothwyon Yswiriant Gwladol yn cynyddu o 6 Gorffennaf 2022 ymlaen. Er mwyn darparu ar gyfer y newid hwn, bydd angen diweddaru meddalwedd cyflogres, gan gynnwys Offer TWE Sylfaenol CThEM. Gall hyn ddigwydd yn awtomatig, neu efallai y bydd angen i chi weithredu.  

Mae'n bwysig bod taliadau sydd i'w gwneud ar 6 Gorffennaf 2022 neu'n ddiweddarach yn defnyddio'r trothwyon cywir. Dylai cyflogwyr sy'n rhedeg eu cyflogres yn gynnar wirio bod eu meddalwedd wedi'i diweddaru cyn prosesu ac adrodd ar y taliadau hyn.  

Disgwylir y bydd yr holl feddalwedd yn cael ei diweddaru erbyn 6 Gorffennaf 2022, felly ni ddylai fod angen gohirio unrhyw daliadau a brosesir ar ôl y dyddiad hwnnw. Os nad ydych yn siŵr a yw eich meddalwedd wedi'i diweddaru ai peidio, cysylltwch â'ch darparwr meddalwedd.  

Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol, nodwch y bydd y feddalwedd hon yn cael ei diweddaru i ystyried y cynnydd yn y trothwy Yswiriant Gwladol o 4 Gorffennaf 2022. Felly arhoswch tan ar ôl 4 Gorffennaf 2022 i redeg y gyflogres ar gyfer unrhyw daliadau a wneir ar neu ar ôl 6 Gorffennaf 2022.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Rates and allowances: National Insurance contributions - GOV.UK (www.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.