BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad ynghylch Pont Menai

Mae’r rhestr o gwestiynau cyffredin ynghylch cau Pont Menai i draffig wedi’i diweddaru.

Mae’r diweddariad yn cynnwys gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i fusnesau ym Mhorthaethwy, gan gynnwys y cymorth ychwanegol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf fel rhan o’r gyllideb ddrafft, ynghyd â diweddariad ar gwblhau gwaith gosod arwyneb newydd a’r gwaith cynnal a chadw y mae Network Rail yn parhau i’w wneud ar Bont Britannia.

Bydd Traffig Cymru yn parhau i gyhoeddi diweddariadau rheolaidd ar Twitter ac ar eu gwefan.

Caiff y Cwestiynau Cyffredin eu diweddaru’n rheolaidd yma A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.