BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariadau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS)

Cymhwystra CJRS o fis Mai

Os oes gennych gyflogeion sydd wedi bod yn anghymwys ar gyfer y CJRS o’r blaen, am nad oedden nhw ar eich cyflogres ar 30 Hydref 2020, mae’n bosibl y byddan nhw’n gymwys am gyfnodau o 1 Mai 2021 ymlaen.

O fis Mai, bydd modd i chi hawlio am weithwyr cymwys a oedd ar eich cyflogres PAYE ar 2 Mawrth 2021. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi fod wedi gwneud cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) PAYE rhwng 20 Mawrth 2020 a 2 Mawrth 2021, gan roi gwybod i CThEM am enillion y cyflogai hwnnw.

Nid oes angen i chi a’ch gweithwyr fod wedi elwa ar y cynllun o’r blaen i wneud hawliad, cyn belled â’ch bod yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwystra, ewch i wefan GOV.UK.

Newidiadau i hawliadau CJRS am gyflogau sy’n amrywio o fis Mai ymlaen

Am gyfnodau o 1 Mai ymlaen, wrth gyfrifo cyflogau cyfartalog cyflogeion nad ydyn nhw ar gyflog sefydlog, ni ddylech gynnwys cyfnod o:

  • absenoldeb sy’n gysylltiedig â Thâl Salwch Statudol
  • absenoldeb statudol am resymau teuluol
  • gostyngiad yn y gyfradd absenoldeb â thâl yn dilyn cyfnod o Dâl Salwch Statudol neu absenoldeb am resymau teuluol

Fodd bynnag, os oedd eich cyflogai ar un o’r mathau hyn o absenoldeb am y cyfnod cyfan a ddefnyddiwyd i gyfrifo ei gyflog cyfartalog, yna dylech barhau i gynnwys y dyddiau a’r cyflogau sy’n gysylltiedig â’r dyddiad hwnnw.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifiadau cyflog sy’n amrywio, ewch i GOV.UK.

Cwestiynau cyffredin am y CJRS

Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am y CJRS ar GOV.UK  drwy chwilio am ‘Job Retention Scheme’.

 

 

 

 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.