BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Amser i Siarad 2023

Mae Diwrnod Amser i Siarad ar ddydd Iau 2 Chwefror 2023 yng Nghymru. Mae’n gyfle i bob un ohonom fod yn fwy agored am iechyd meddwl – i siarad, i wrando, i newid bywydau.

Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ymgyrch pedair gwlad sy'n digwydd bob blwyddyn yn y DU. Yng Nghymru, mae Diwrnod Amser i Siarad 2023 yn cael ei redeg gan Amser i Newid Cymru, Adferiad Recovery, Mind Cymru ac mewn partneriaeth â'r Co-op. Mae ymgyrch Amser i Newid Cymru hefyd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag y mae pobl yn ei sylweddoli – ac yn effeithio ar un o bob pedwar ohonom. Ond mae pobl yn dal i fod ag ofn trafod iechyd meddwl, gan olygu bod rhai pobl yn teimlo cywilydd neu'n unig.

Rydyn ni am i bawb deimlo'n gyfforddus yn siarad am iechyd meddwl – pryd bynnag y byddan nhw am wneud hynny.

Mae siarad am iechyd meddwl yn lleihau'r stigma ac yn helpu i greu cymunedau cefnogol lle y gallwn ni siarad yn agored am iechyd meddwl a chael ein grymuso i ofyn am help pan fydd ei angen arnon ni.

Dyna pam mae dechrau'r sgwrs am broblemau iechyd meddwl mor bwysig – drwy siarad amdanyn nhw, gallwn ni helpu ein hunain ac eraill.

Sut bynnag y gwnewch chi hynny, siaradwch am iechyd meddwl.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Time To Change Wales : Diwrnod Amser i Siarad

Rydym yn gwybod bod costau cynyddol yn her fawr i fusnesau ac yn gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl a'n lles. P'un a ydych chi'n hunangyflogedig neu'n berchennog busnes, dylen ni gymryd camau i ofalu am ein hiechyd meddwl ni a’n gweithwyr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Lles ac Iechyd Meddwl | Busnes Cymru (gov.wales)


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.