BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Gwahaniaethu ar sail Hil 2024

Muslim woman computer programmer

Ar 21 Mawrth, mae Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail hil. Mae’r diwrnod yn cael ei gofio’n flynyddol yn dilyn datganiad gan y Cenhedloedd Unedig ym 1966.

Wrth gyhoeddi’r diwrnod, galwodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar y gymuned ryngwladol i gynyddu ei hymdrechion i ddileu pob ffurf ar wahaniaethu ar sail hil.

Mae’r dyddiad yn ein hatgoffa ar yr adeg iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i fod yn sefydliad gwrth-hiliol.

I ddarganfod beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu Cymru wrth-hiliol, ewch i: Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol | LLYW.CYMRU

Mae’r Addewid Cydraddoldeb yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau rhagweithiol at greu gweithle cynhwysfawr, teg ac amrywiol, ac arddangos eu hymrwymiad i’w gweithwyr a’r gymuned ehangach a chynnig cynnyrch a gwasanaethau hygyrch i bawb: Addewid Cydraddoldeb | Busnes Cymru (gov.wales)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.