BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2024

Female engineer

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg ar 23 Mehefin 2024 ac mae’n hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae peirianwyr benywaidd yn ei wneud ar draws y byd. 

Y thema eleni yw #peiriannegyncyfoethogi #enhancedbyengineering. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg yn tynnu sylw at beirianwyr benywaidd ar draws y byd a hwythau’n dal i gael eu tangynrychioli’n aruthrol, gyda ffigurau 2021 yn nodi mai dim ond 16.5% o beirianwyr y DU sy’n fenywod.

Ydych chi eisiau cymryd rhan? Ychwanegwch eich digwyddiadau, lawrlwythwch adnoddau ac ymunwch!

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg 2024

Mae Llywodraeth Cymru eisiau taflu goleuni ar yr ystod o fentrau sydd â'r nod o annog merched i yrfaoedd ym maes Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), megis rhaglenni ariannu sy'n canolbwyntio'n benodol ar ferched, gyda'r nod o gynyddu'r niferoedd o ysgolion uwchradd sy'n ymgysylltu â diwydiannau STEM. Mae hefyd yn ariannu'n llawn brentisiaethau gradd mewn Peirianneg a Gweithgynhyrchu Uwch sy'n cyfuno dysgu yn y gweithle â chymhwyster addysg uwch: Unrhyw beth yn bosibl i fenywod mewn peirianneg yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.