BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwydiannau sylfaen: meithrin adferiad cadarn: gwneud cais am gyllid

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am ran o £8 miliwn mewn cyllid grant ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi adferiad a thwf y diwydiannau sylfaen canlynol, sy’n hanfodol ar gyfer sectorau gweithgynhyrchu ac adeiladu’r DU.

  • sment
  • gwydr
  • cerameg
  • papur
  • metelau
  • cemegau swmp

Mae’n rhaid i brosiectau ddangos sut maent yn mynd i’r afael ag effeithlonrwydd ynni neu adnoddau diwydiannau sylfaen a chefnogi cadernid a chynaliadwyedd y sector a’i gadwyni cyflenwi.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am 11am ar 4 Tachwedd 2020 a gall busnesau o unrhyw faint a sefydliadau ymchwil a thechnoleg o’r DU wneud cais.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.