BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i ffynnu

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod diwydiant bwyd a diod Cymru'n parhau i fynd o nerth i nerth wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos bod trosiant cadwyni cyflenwi'r sector wedi cynyddu i £23 biliwn yn 2021. Dyma gynnydd o 2.9% o'r trosiant o £22.4 biliwn yn 2020.

Gwelwyd twf cadarn iawn yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru, sy'n cynhyrchu cynhyrchion amrywiol, yn 2021 gyda throsiant yn cynyddu 10.2% o £4.9bn i £5.4bn.

Mae cyhoeddiad heddiw (17 Hydref 2022) yn dilyn y newyddion a ddatgelwyd yn gynharach eleni bod gwerth allforion bwyd a diod o Gymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yn 2021, sef £640m.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i helpu busnesau yn y sector drwy amryfal gynlluniau cymorth lsy'n darparu mewnwelediad a gwybodaeth am y farchnad, buddsoddi, cefnogaeth dechnegol, cefnogaeth allforio a phwyslais cryf ar rwydweithio busnes.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://llyw.cymru/diwydiant-bwyd-diod-cymrun-parhau-i-ffynnu 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.