Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar ystod o gynigion a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i gyfraddau annomestig yng Nghymru.
Mae’r cynigion yn cynnwys y canlynol:
- cylchredau ailbrisio amlach
- gwella llif gwybodaeth rhwng llywodraeth a thalwyr ardrethi
- rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru ddiwygio rhyddhadau ac eithriadau
- adolygu rhyddhadau ac eithriadau
- darparu mwy o gyfleoedd i amrywio’r lluosydd
- gella sut y caiff y swyddogaethau prisio eu gweinyddu
- mesurau pellach i sicrhau y gallwn barhau i fynd i’r afael ag achosion o bobl yn osgoi talu trethi
Mae'r ymgynghoriad hefyd yn amlinellu'r gwaith parhaus i archwilio'r gallu ar gyfer diwygio mwy radical drwy ddulliau amgen o godi trethi lleol dros y tymor hwy.
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 14 Rhagfyr 2022.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Diwygio Ardrethi Annomestig yng Nghymru | LLYW.CYMRU