BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dstl yn cyhoeddi gweminarau Searchlight newydd ar gyfer systemau tir

Mae’r cyfleoedd diweddaraf ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) a chyflenwyr newydd i ymgysylltu â’r diwydiant amddiffyn wedi’u cyhoeddi gan Dstl (Labordy Gwyddoniaeth a Thechnoleg Amddiffyn).

Mae Dstl yn cynnal 2 weminar ym mis Mawrth i gefnogi ymchwil i wella’r gwaith o amddiffyn a symud cerbydau arfog, heddiw ac i’r dyfodol. Mae’r gweminarau’n cael eu trefnu drwy fenter Searchlight Dstl i gynyddu’r cydweithredu amddiffyn gyda chyflenwyr amddiffyn annhraddodiadol.
Dyma ddyddiadau’r gweminarau:

  • 16 Mawrth 2021: Systemau Diogelu Integredig Modiwlaidd, 1:30pm tan 2:30pm Systemau Diogelu Integredig Modiwlaidd
  • 18 Mawrth 2021: Ymchwil System Brwydro ar y Tir yn y Dyfodol, 11:30am tan 12:30pm

Mae’r gweminarau ar gael am ddim ac nid oes angen i fusnesau fod wedi gweithio’n flaenorol gyda Dstl nac yn y sector amddiffyn. Croesewir cyfranogwyr o blith gwneuthurwyr cyfarpar a deunyddiau, peirianwyr, arloeswyr, ymchwilwyr ac academyddion ac eraill sydd â diddordeb go iawn a gallu i weithio gyda Dstl.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gov.UK.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.