BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dyfodol Cymorth i Brynu – Cymru o fis Ebrill 2023 ymlaen

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Heddiw (14 Rhagfyr 2022), rwy’n cyhoeddi fy mwriad i estyn Cymorth i Brynu - Cymru am ddwy flynedd arall, tan fis Mawrth 2025.

Mae’n bwysig sicrhau bod yr estyniad i’r cynllun yn ystyried newidiadau yn y farchnad dai ac effaith yr hinsawdd economaidd sydd ohoni ar ddarpar berchnogion tai a’r diwydiant tai.

Byddaf, felly, yn cyflwyno cap newydd ar brisiau o £300,000 ar gyfer Cymorth i Brynu – Cymru, o fis Ebrill 2023 ymlaen, yn unol â’r cynnydd ym mhrisiau tai ar gyfartaledd yng Nghymru. Wrth weithio tuag at ein nodau o wella effeithlonrwydd ynni yn ein cartrefi, bydd angen i bob cartref a brynir gyda chymorth y cynllun gyrraedd Band B y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) o leiaf.

Datblygwyd yr estyniad hwn gyda chefnogaeth UK Finance, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Banc Datblygu Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod cymorth i ddarpar berchnogion tai newydd yn parhau i fod yn berthnasol ac wedi’i dargedu at y rhai sydd ei angen fwyaf, yn enwedig yn y cyfnod heriol hwn yn economaidd.

Wrth wneud y cyhoeddiad hwn, rwy’n rhoi sicrwydd i bobl sy’n gobeithio prynu tŷ, ac yn cynnig cymorth i fwy na 90 o ddatblygwyr a busnesau bach a chanolig sydd wedi cofrestru i ddarparu’r cynllun.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Dyfodol Cymorth i Brynu - Cymru o fis Ebrill 2023 ymlaen (14 Rhagfyr 2022) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.