BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Enillwch hyd at £3,000 i ddechrau eich busnes

Ydych chi wedi eich lleoli yn Sir Conwy? Eisiau dechrau busnes Gwyddoniaeth, Technoleg neu Greadigol? Mae Miwtini i chi!

Bwriad rhaglen Miwtini yw i'ch helpu chi i gychwyn eich busnes. Gyda sesiynau yn cwmpasu popeth o gynllunio busnes, i greu gwefan, i sgiliau gwerthu ac yn gorffen gyda phitsh lle mae cyfle i ennill rhan o pot arian £5,000 i’ch helpu i gychwyn.  

Mae’r cyfan wedi'i ariannu'n llawn felly does dim cost i chi! 

  • 6 sesiwn gyda’r nos dros gyfnod o 2 wythnos
  • 5:30pm i 8pm cychwyn 13 Mehefin 2022
  • @ M-SParc Ar Y Lon, Bae Colwyn

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud cais wrth ddilyn y linc isod am y cyfle unigryw hwn i fod yn rhan o'r Miwtini nesaf gan fod lleoedd yn gyfyngedig, dyddiad cau 8 Mehefin 2022.
 
https://form.jotform.com/Openshaw/Miwtini


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.