BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Enwau parth .eu - beth sydd angen i chi ei wneud cyn diwedd y cyfnod pontio

O 1 Ionawr 2021, ni fyddwch bellach yn gallu adnewyddu na chofrestru ar gyfer enwau parth .eu:

  • os yw’ch sefydliad, busnes neu fenter wedi’i sefydlu yn y DU ond ddim yn yr UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu
  • os ydych yn byw y tu allan i’r UE/AAE a ddim yn ddinesydd UE/AAE

Darllenwch hysbysiad diweddaraf y Comisiwn Ewropeaidd ar enwau parth .eu.

Gallwch ddim ond cofrestru neu gadw enwau parth .eu:

  • os ydych chi’n ddinesydd UE/AAE, waeth lle rydych chi’n byw
  • os nad ydych chi’n ddinesydd UE/AAE ond yn byw yn yr UE/AAE.
  • os ydych yn sefydliad, busnes neu fenter a sefydlwyd yn yr UE/AAE

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.