BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Estyniad Grant y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS)

Mae Estyniad i’r Grant SEISS yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r hunangyflogedig. Bydd y grant yn gyfyngedig i unigolion hunangyflogedig sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer y SEISS ac sy'n parhau i fasnachu ond sy'n wynebu llai o alw oherwydd COVID-19.

Bydd yr estyniad yn darparu dau grant a bydd yn para chwe mis rhwng Tachwedd 2020 ac Ebrill 2021. Telir y grantiau mewn dau gyfandaliad, pob un yn cwmpasu cyfnod o dri mis.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.