BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Fast Growth 50 2023

Mae Fast Growth 50 yn mynd yn genedlaethol!

Ers 1999, mae Fast Growth 50 wedi bod yn gweithio gyda'r cwmnïau twf cyflym sy’n perfformio orau yng Nghymru, gan gydnabod eu llwyddiannau a'u helpu i wneud gwahaniaeth i economi Cymru.

Mae cwmnïau twf cyflym - sydd fel arfer yn cael eu diffinio fel cyflawni twf o 20% y flwyddyn - yn ffurfio llai nag 1% o boblogaeth fusnes y DU ond yn cynrychioli 50% o gyfanswm allbwn trosiant BBaCh.

Bydd prosiect UK Fast Growth 50 yn ymgymryd â dull sy'n cael ei yrru gan ddata i amlygu'r cwmnïau sy'n tyfu gyflymaf ym mhob cenedl a rhanbarth yn y DU. Bydd yn ymchwilio i, datblygu a chyhoeddi rhestrau sy'n nodi'r 50 cwmni sy'n tyfu gyflymaf yn Nwyrain Lloegr, Llundain, Canolbarth Lloegr, Gogledd Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban, De Lloegr, a Chymru.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol The UK Fast Growth 50 | Ideas Forums Ltd (freshbusinessthinking.com)

Mae amrywiaeth o gyfleoedd nawdd a chyfleoedd partneriaeth ar gael. Os oes gennych ddiddordeb mewn trafod y rhain, cliciwch ar y ddolen ganlynol Sponsorship | The UK Fast Growth 50 (freshbusinessthinking.com)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.