BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ffenestr Cam 1 y gystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol

Mae Llywodraeth y DU, mewn cydweithrediad ag Innovate UK, yn ddiweddar wedi ailagor cystadleuaeth Cam 1 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol.

Bydd y cyllid Cam 1 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sydd werth hyd at £30 miliwn, yn para hyd 28 Hydref 2020 ac mae ar gael ar ffurf cynllun grant sydd ar gael ar gyfer:

  • Defnyddio technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed sy’n gwella effeithlonrwydd ynni prosesau diwydiannol a lleihau’r galw am ynni.
  • Astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg ar gyfer prosiectau sy’n defnyddio technolegau effeithlonrwydd ynni aeddfed neu dechnolegau datgarboneiddio dwfn. Mae’r asesiadau technegol ac economaidd hyn o brosiectau posibl yn lleihau risgiau a darparu amcangyfrifon costau mwy cywir, gan alluogi penderfynwyr i wneud dewisiadau buddsoddi gwybodus.

Er mwyn helpu busnesau sy'n bwriadu gwneud cais am arian Cam 1, mae BEIS ac Innovate UK yn cynnal cyfres o glinigau rhanddeiliaid lle cewch gyfle i holi cwestiynau am geisiadau posibl, cymhwysedd, y broses ymgeisio, ac ati. Mae'r clinigau'n gyfle gwych i allu ymgysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau a chroesawn y cyfle i allu helpu gydag unrhyw ymholiadau. Mae'r clinigau'n cael eu cynnal bob pythefnos. Gallwch gofrestru ar-lein i fynychu y clinigau rhanddeiliaid.

Mae’r canllawiau ymgeisio Cam 1 yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer gwneud cais am gyllid Cam 1 o’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol ar gael ar wefan GOV.UK.

Mae Innovate UK hefyd yn gweithredu gwasanaeth cymorth cwsmeriaid i roi rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio. E-bostiwch Innovate UK yn support@innovateuk.ukri.org neu ffoniwch linell gymorth y gystadleuaeth ar 0300 321 4357 rhwng 9am a 5.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.