BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ffenestr y gystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol yn agor yn ystod Gwanwyn 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal cystadleuaeth Cronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol arall yn ystod Gwanwyn 2021.

Mae hyn yn deillio o’r ymateb da a gafwyd i ffenestr Cam 1 y gystadleuaeth a ddaeth i ben 28 Hydref 2020.

Mae trefn cystadleuaeth y Gwanwyn yn debygol o fod yn debyg i’r ffenestr flaenorol, a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu maes o law.

Cyhoeddir enillwyr Cam 1 y gystadleuaeth a ddaeth i ben yn ddiweddar, a’r dyraniad terfynol ar gyfer cyllideb y gystadleuaeth honno, yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bydd Cam 2 y gronfa yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn 2021.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, e-bostiwch IETF@beis.gov.uk

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.